Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
|
|
|
||
Dyddiad: |
||
|
||
Amser: |
||
|
||
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: |
||
Gareth
Price 02920898409 |
||
|
Agenda |
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon (14:00 - 14:05) 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones. |
2. Adolygu'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor ar gyfer cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013 (14:05 - 14:20) 2.1 Trafododd y pwyllgor argymhellion ei adroddiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13 ac ymateb y Gweinidog Cyllid.
2.Cytunodd y pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am:
· nodyn yn egluro pam fod y Gweinidog wedi dewis rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor ar ffurf adroddiadau cwarterol; · nodyn yn egluro rôl yr uned gyflawni.
|
3. Papurau i'w nodi 3.1 Nododd y pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
3.2 Nododd y pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i ardoddiad y pwyllgor, ‘Pwerau benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf’ a chytunodd i gynnal dadl ar yr adroddiad. |
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 i 7. |
5. Ystyried yr adroddiad drafft ar effeithiolrwydd cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru (14:20 - 15:05) 5.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ‘Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru’ ac awgrymodd welliannau.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried yr adroddiad drafft ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
6. Ystyried y diwygiadau a wnaed i gyllidebau 2011-2012 - adroddiad alldro (15:05 - 15:15) 6.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad alldro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-2012 a chytunodd i ofyn am wybodaeth bellach gan y Gweinidog Cyllid. |
7. Blaenraglen waith y Pwyllgor - Hydref 2012 (15:15 - 15:45) 7.1 Trafododd y Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2012. |